Billie Piper | |
---|---|
Ganwyd | Leian Paul Piper 22 Medi 1982 Swindon |
Man preswyl | Swindon, Gogledd Lundain, Easebourne |
Label recordio | Innocent, Virgin Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor, canwr, dawnsiwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor llais, cyfarwyddwr ffilm |
Adnabyddus am | Because We Want To |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, pop dawns |
Priod | Chris Evans, Laurence Fox |
Plant | Winston James Fox, Eugene Fox |
Gwobr/au | Critics’ Circle Theatre Award for Best Actress, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau, Laurence Olivier Award for Best Actress, Whatsonstage.com Awards, Whatsonstage.com Awards |
Gwefan | https://www.billiepiperofficial.com |
Actores a chantores Seisnig yw Billie Piper (ganwyd 22 Medi 1982) Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel Rose yn y gyfres deledu Doctor Who.
Cafodd Piper ei geni yn Swindon, fel Leian Paul Piper, yn ferch i Paul Piper a Mandy Kent[1] Cafodd ei haddysg yn yr Ysgol Coedwig Bradon yn Purton. Yn ddiweddarach enillodd ysgoloriaeth i'r ysgol Sylvia Young yn Llundain.[2]
Ym 1998, daeth hi'n gantores ieuengaf i ymddangos am y tro cyntaf yn rhif un yn Siart Senglau'r DU gyda'r cân "Because We Want To", defnyddio'r enw "Billie".[3]
Priododd Piper a'r cyflwynydd teledu a radio Chris Evans yn gyfrinachol yn Paradise, Nevada, UDA, ar 6 Mai 2001.[4] Ysgarodd ym Mai 2007.[5][6] Priododd yr actor Laurence Fox ar 31 Rhagfyr 2007.[7] Ysgarodd yn 2016.